Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Awst 2016 • Rhifyn 002

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Mae gofal a chymorth yng Nghymru yn newid

Mae gofal a chymorth yng Nghymru yn newid

Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn am y modd rydym yn sicrhau bod gwasanaethau’n cadw pobl yn ddiogel ac yn darparu gofal o safon.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn para tan ddydd Mawrth, Medi’r 20.

Ysgrifennydd y Cabinet yn cychwyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio newydd

Ysgrifennydd y Cabinet yn cychwyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio newydd

Mae'r amserlen ar gyfer cychwyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio newydd wedi cael ei chyhoeddi.

Gwyliwch Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet yn cwrdd â chleifion a staff yn y lansiad ym Mhenybont.

Y Gweinidog yn ymweld â chanolfan arbenigol Abertawe ar gyfer ymchwil dementia

Y Gweinidog yn ymweld â chanolfan arbenigol Abertawe ar gyfer ymchwil dementia

Ymwelodd y Gweinidog â Chanolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym Mharc Singleton, sy'n rhan o Brifysgol Abertawe. Yno, cafodd gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr i drafod eu gwaith.

Llai o bobl yn marw o glefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd

Llai o bobl yn marw o glefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd

Yn ôl adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar glefyd y galon, mae llai o bobl yn marw o glefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru.

Prosiect gofal iechyd Sir y Fflint yn helpu pobl i aros yn annibynnol

Prosiect gofal iechyd Sir y Fflint yn helpu pobl i aros yn annibynnol

Mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn prosiect adsefydlu yn Sir y Fflint yn helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn arbed arian i'r GIG.

 

Y gofal yn ganolog i ganolfan ddementia ‘Cariad’ yng Nghonwy

Y gofal yn ganolog i ganolfan ddementia ‘Cariad’ yng Nghonwy

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi canmol canolfan ddementia yng Nghonwy, sydd wedi cael ei chydnabod am ei safonau uchel ac am ganolbwyntio ar y gofal a roddir i unigolion.

Darllenwch fwy ar llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

 
 

AMDANOM NI

Mae bwletin y GIG yn darparu gwybodaeth berthnasol i'r rhai hynny sy'n gweithio yn y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/Iechyd

Dilyn ar-lein:

@wgcs_health

@wgmin_ssph

@CMOWales

@DHSSwales