Cyflwynodd
Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton ei adroddiad blynyddol cyntaf, ‘Adfer
cydbwysedd i ofal iechyd: Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch
cymdeithasol’.
Mae’r cynllun diwygiedig,
Cyflawni ar gyfer Canser yn cynnwys ymrwymiadau i barhau i gynyddu nifer y
cleifion canser sy’n goroesi; lleihau nifer y marwolaethau cynnar sy’n digwydd
oherwydd y clefyd hwn; a chau’r bwlch sydd rhwng yr hyn a gynigir yng Nghymru
a’r hyn sydd ar gael gan ddarparwyr gofal canser gorau Ewrop.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth iechyd yn cael £50m i gynnal a gwella perfformiad dros gyfnod prysur y gaeaf. Fe wnaeth hefyd atgoffa pawb y gallwn ysgafnhau'r baich ar y gwasanaethau brys drwy wneud Dewis Doeth.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi rhoi’r golau gwyrdd ar gyfer adeiladu Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol newydd yn Llanfrechfa, Cwmbran.
Er mwyn gwella diogelwch cleifion drwy rannu gwybodaeth, mae gan fwy o fferyllwyr a meddygon mewn ysbytai fynediad electronig erbyn hyn i gofnodion cleifion sy’n cael eu cadw gan feddygon teulu yng Nghymru.