Mae dogfen wedi’i chyhoeddi sy’n bwrw golwg ar y gwaith da sy’n cael ei wneud drwy Gymru i roi gofal ardderchog ar bob lefel a chael effaith gadarnhaol ar gleifion.
Mae data newydd yn dangos, am y tro cyntaf, fod cynnydd mawr wedi bod yn y cyfraddau cydsynio i roi organau yn dilyn marwolaeth coesyn yr ymennydd yng Nghymru (88.2%) o'i gymharu â Lloegr (73.3%).
Heddiw, roedd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Bobl Hŷn, yn Abertawe i gymryd rhan mewn digwyddiadau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith pobl hŷn yn yr ardal.
Cafodd yr arolwg ei gynnal fel rhan o’r Rhaglen Bright Spots i helpu awdurdodau lleol, fel rhieni corfforaethol, i ddeall yn well beth sydd fwyaf pwysig i’r plant y maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae hefyd o gymorth i ddod i wybod mwy am deimladau’r plant am y gofal y maent yn ei dderbyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl ledled Cymru i weithredu NAWR a gwneud mwy i sicrhau nad yw plant ac oedolion yn cael eu rhoi mewn perygl o wynebu camdriniaeth, esgeulustod neu gam-fanteisio.
Er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cael ei darparu'n effeithlon i fenywod o Ogledd Iwerddon a sicrhau bod gwasanaeth teg yn cael ei ddarparu ar gyfer menywod yng Nghymru, bydd canllawiau ar y ddarpariaeth o wasanaethau terfynu beichiogrwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Bu'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, ar ymweliad â Sir Benfro i weld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau gofal di-dor sy'n gwella iechyd a llesiant pobl ledled y sir.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £13.4m ar gyfer prosiect yng Ngwent i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu.
Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i barhau â’r gwaith o ailwampio llawr gwaelod yr ysbyty, a darparu prif gegin, ardal fwyta a fferyllfa newydd.
Mae prosiect yn y Gogledd yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor i bobl ag anableddau dysgu. Dyma'r prosiect diweddaraf i gael cyllid oddi wrth y gronfa werth £100m o eiddo Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cyllid ar gyfer trawsnewid sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i benodi 5 o Gadeiryddion i graffu’n allanol ar adolygiadau ôl-weithredol Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer GIG Cymru. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 18 Rhagfyr 2018.