Cylchlythyrau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol - Rhagfyr 2018

Date • Rhifyn 111

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Dentist

Cynnydd ar gynlluniau i wella gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru

Heddiw mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi croesawu cynnydd ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru.

Crowd

Gwneud gwahaniaeth i'r gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru am benodi Cadeirydd ac un Aelod i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.

People

Canllawiau arfer da ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar weithio gydag oedolion sy'n cyflawni Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

I'r bobl hynny sy'n gweithio o fewn neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, hoffem glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud. Cymerwch ein harolwg. Dyddiad cau 15 Ionawr 2019

 

man

Tair blynedd ers cyflwyno polisi rhoi organau sydd wedi newid bywydau

Yn 2015, cyflwynodd Cymru system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau, a hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud penderfyniad o'r fath.

Crowd

Chwilio am Gadeirydd newydd Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru, rheoleiddiwr y gweithlu a'r corff sy'n gyfrifol am wella'r sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar ledled Cymru.

Carer

Gweinidog yn cadarnhau £15m o fuddsoddiad mewn gwasanaethau i gefnogi gofalwyr ac oedolion ag anghenion gofal

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o wella ansawdd a phriodoldeb y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig i ofalwyr, gan gynnwys y math o wasanaeth seibiant neu gymorth o fath arall sydd ar gael a pha mor aml mae'n cael ei gynnig.

Dragon

Ymgynghoriad i geisio sicrhau mwy o gefnogaeth i bobl awtistig yng Nghymru

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig y dylid cael Cod Ymarfer newydd er mwyn sicrhau mwy o gefnogaeth i bobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Children

Rhaglen Plant Iach Cymru ar gynnydd i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant

Mae rhaglen Plant Iach Cymru Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant hyd at 7 oed yn cael cyswllt rheolaidd gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.

Medical Staff

£114 miliwn i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol

Mae hyn £7m yn fwy na 2018/19 a dyma'r bumed flwyddyn yn olynol i'r cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol Cymru gynyddu.

Darllen mwy am hyn llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

 
 

AMDANOM NI

Gwybodaeth berthnasol i'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

Dilyn ar-lein:

@wgmin_health

@wgdep_health

@CMOWales

@DHSSwales