Gofalwyr ifanc

Pwy rydyn ni'n eu cefnogi?

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi gofalwyr di-dâl dan 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio gofalwyr ifanc yn ‘blant a phobl ifanc sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu’r rheiny y mae camddefnyddio sylweddau wedi effeithio arnynt’.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Mae gan gynghorau gyfrifoldeb am les gofalwyr ifanc a rhaid iddynt sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol. Yn Nhorfaen, rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr ifanc yn ei chwarae ac rydym yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd hamdden i alluogi gofalwyr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chysylltiadau cymdeithasol sy'n briodol i'w hoedran..

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi dros 140 o ofalwyr ifanc. Aseswyd anghenion y gofalwyr ifanc hyn ac mae cefnogaeth yn cael ei darparu. Gall y gefnogaeth gynnwys;

  • Cefnogaeth un i un
  • Grwpiau cymdeithasol
  • Hyfforddiant
  • Gweithgareddau Preswyl a theithiau
  • Rhywun i siarad ag ef, er mwyn lleihau pryder, straen ac unigedd
  • Seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu ac i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill

Gyda phwy arall y mae’r gwasanaeth yn gweithio?

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r:

  • Gwasanaeth Ieuenctid
  • Adran Chwarae Torfaen
  • Adran Datblygu Chwaraeon
  • Cyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl
  • Sefydliadau trydydd sector eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Honeypot, i gael canlyniadau gwell i'n gofalwyr ifanc.

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc (Cynllun Cerdyn)

Cerdyn adnabod â llun yw'r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i Ofalwyr Ifanc sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac wedi gofyn am gerdyn. Lansiwyd y cynllun yn Nhorfaen ar 15 Mawrth 2021.

Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn cadarnhau bod y person a ddangosir ar y cerdyn yn Ofalwr Ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu. Nid oes angen i Ofalwyr Ifanc fod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc cyn cael Cerdyn Adnabod.

Mae Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn rhad ac am ddim ac mae'n parhau am 2 flynedd.

Mae'r cynllun cardiau adnabod cenedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi'i ddatblygu fel partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'r holl awdurdodau lleol ledled Cymru, gan weithio i brofi a datblygu dull ledled y wlad i wella'r profiadau y mae gofalwyr ifanc yn eu cael yn y maes iechyd, gofal cymdeithasol a lleoliadau addysg.

Bydd y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn darparu dull adnabod ar ffurf llun  unrhyw ofalwr ifanc o dan 18 oed a hoffai gael un. Bydd hyn yn eu galluogi i ddangos i weithwyr proffesiynol pwy ydyn nhw heb orfod rhannu manylion personol am eu rôl ofalu. Bydd y cerdyn adnabod yn Nhorfaen yn cynnwys buddion gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen fel nofio am ddim a mynediad i gamfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig