Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddefnyddio’r PIN actifadu er mwyn actifadu eich cyfrif Cynnig Gofal Plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Actifadu eich lleoliad gofal plant

Bydd eich cais cofrestru yn cael ei adolygu gan eich awdurdod lleol (ALl).

Mae'r adolygiad hwn yn cynnwys yr ALl yn ffonio’r lleoliad i wirio hunaniaeth a rhai manylion cofrestru.

Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud ac y bydd yr ALl yn gallu cymeradwyo'r cais, bydd PIN Actifadu’n cael ei anfon drwy bost y llywodraeth i gyfeiriad eich lleoliad fel y mae wedi'i gofrestru gydag AGC, o fewn 48 awr. Y person arweiniol sy’n actifadu’r gwasanaeth gan ddefnyddio’r PIN actifadu ar ôl mewngofnodi i gyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru.

Os nad yw eich lleoliad yn gallu derbyn post, bydd angen ichi drafod hyn gyda'r ALl pan fyddan nhw’n eich ffonio chi i ddilysu eich cofrestriad.

Bydd angen ichi gadw’r PIN Actifadu hwn yn ddiogel er mwyn ei rannu gydag unrhyw ddefnyddwyr eraill sydd am ymuno â chyfrif y lleoliad.

Os yw’r person arweiniol yn gadael cyflogaeth y lleoliad, eu cyfrifoldeb nhw yw i rannu’r PIN gydag arweinydd newydd y lleoliad er mwyn iddyn nhw gael mynediad at y gwasanaeth digidol.  

Nid yw’r PIN actifadu wedi cyrraedd

Os nad yw eich PIN wedi cyrraedd, cysylltwch â ni am gymorth.