Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (5 Mehefin), cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd staff ceginau a staff domestig mewn cartrefi gofal yn cael y £500 ychwanegol a addawyd i staff gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y taliad hefyd yn cael ei ymestyn i staff asiantaeth a staff nyrsio sy'n cael eu cyflogi mewn cartrefi gofal, yn ogystal â chynorthwywyr personol a gweithwyr gofal cartref sy'n darparu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r trefniadau ar y gweill, bellach, i ddechrau gwneud y taliad ychwanegol i ddegau o filoedd o staff gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog heddiw fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a CThEM i geisio gofalu bod pob ceiniog o’r taliad yn cyrraedd pocedi pobl.

Dywedodd:

Gofal cymdeithasol yw’r sgaffaldwaith anweledig sy’n dal ein cymdeithas at ei gilydd. Heb y gofal hollbwysig y mae’r fyddin fechan hon o bobl sy’n gweithio yn ein cartrefi a’n cartrefi gofal yn ei ddarparu, rydyn ni’n gwybod na fyddai’r GIG yn gallu ymdopi, a bod yna lawer iawn o bobl a fyddai’n methu byw’n annibynnol.

Mae’r taliad hwn yn cydnabod ymrwymiad aruthrol y degau o filoedd o weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru sy’n gofalu am rai o bobl fwyaf bregus ein cymunedau.

Mae’n beth cywir rhoi’r taliad hwn i’r rheini sy’n helpu i ofalu am drigolion cartrefi gofal. Yn ogystal â’r gwaith pwysig y mae staff gofal cymdeithasol yn ei wneud yng nghartrefi pobl ac mewn cartrefi gofal, rydyn ni’n gwybod bod staff domestig a staff ceginau yn mynd y tu hwnt i’w gofynion arferol, gan ddarparu gofal a chyfeillgarwch i’r trigolion yn ystod y pandemig hwn.

Bydd holl staff cymwys gofal cymdeithasol, gan gynnwys staff ategol, megis glanhawyr a staff ceginau; nyrsys sy’n cael eu cyflogi mewn cartrefi gofal; gweithwyr gofal cartref a chynorthwywyr personol a weithiodd rhwng 15 Mawrth a 31 Mai yn cael y £500 ychwanegol.