Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd Fframwaith Gweithredu GIG Cymru ar 6 Mai 2020.  

Fel sy’n wir am sawl agwedd ar ein bywydau, mae COVID-19 wedi golygu newid enfawr i'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r maes gofal cymdeithasol yn cael eu cynllunio a'u darparu. Mae'r Fframwaith Gweithredu presennol yn canolbwyntio ar gynlluniau byrdymor sy'n cael eu datblygu o gam i gam ar gyfer pedwar chwarter y flwyddyn.

Mae'r fframwaith newydd hefyd yn adlewyrchu'r angen i ystyried 4 math o niwed, a gwneud ein gorau i fynd i'r afael â phob un ohonynt mewn ffordd gytbwys:

  • Niwed yn sgil COVID ei hun
  • Niwed yn sgil llethu system y GIG a gofal cymdeithasol
  • Niwed yn sgil lleihad mewn gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig a COVD
  • Niwed yn sgil gweithgareddau cymdeithasol ehangach / y cyfyngiadau

Mae Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar gyfer chwarter 1 (2020/21) a’r atodiad sy’n crynhoi’r gwasanaethau hanfodol i’w gweld drwy’r dolenni isod.

https://gov.wales/nhs-wales-covid-19-operating-framework-quarter-1-2020-2021

https://gov.wales/essential-health-services-during-covid-19

Mae cynlluniau chwarter 1 yn cydnabod bod ein GIG yn parhau i gefnogi nifer sylweddol o gleifion COVID. Maent yn cydnabod yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar ymddygiad pobl ac, yn benodol, ar eu parodrwydd i geisio cymorth gan y GIG hyd yn oed ar gyfer anghenion iechyd brys.  Mae'n hanfodol bod y GIG yn parhau i greu amgylcheddau diogelach a llwybrau amgen er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder cleifion. Bydd hynny’n golygu bod pobl yn fwy parod i ymgymryd â’r triniaethau y mae arnynt eu hangen pan fydd mwy o wasanaethau ar gael. Ni fydd hyn yn digwydd dros nos gan fod pobl, yn naturiol, yn ochelgar, ond mae'r GIG yno i bawb fel mae wedi bod drwy gydol y pandemig.

Mae’r Byrddau Iechyd wedi ceisio canfod amrywiaeth o ffyrdd y gallant ddefnyddio eu hamgylchedd ffisegol a datblygu ffyrdd newydd o weithio i gadw cleifion a staff mor ddiogel â phosibl, gwella hyder y cyhoedd a sicrhau bod pobl yn ceisio triniaeth pan fo’i angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu llwybrau amgen yn y gymuned, defnyddio mwy o dechnoleg, ac ystyried sut i ddefnyddio'r capasiti ychwanegol o ran gwelyau mewn ysbytai maes a chyfleusterau preifat.

Mae sefydliadau'r GIG wedi bod yn ofalus wrth lunio cynlluniau chwarter 1 er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i allu ymateb yn gyflym i unrhyw ymchwydd yn y gyfradd drosglwyddo wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.

Rwyf wedi cynnwys isod rai agweddau penodol ar gynlluniau chwarter 1 pob un o'r byrddau iechyd a fydd, gobeithio, yn rhoi blas o'r cynnydd a'r heriau a ddaeth i'r amlwg yn y cynlluniau lleol. Mae nifer o themâu cyffredin ac mae pob sefydliad wedi llunio’u cynlluniau mewn modd sy’n ymateb i anghenion eu poblogaeth leol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cynnal nifer sylweddol o lawdriniaethau lleol, mae gwasanaethau meddygol sy'n achub bywydau yn perfformio'n gryf, ac mae cleifion canser yn aros llai o amser am apwyntiadau fel cleifion allanol ar ôl COVID. Mae darparu gwasanaethau canser ar draws y llwybr yn parhau’n flaenoriaeth allweddol o ran cynllunio Cam 2. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa'n dal yn heriol – mae mynediad at wasanaethau llawfeddygol/oncoleg trydyddol (er gwaethaf y niferoedd bach) yn parhau’n heriol ac maent wedi cydnabod bod endosgopi wedi bod yn gyfyngiad allweddol.

Mae'r sefyllfa’n fregus o hyd, ac er bod mwy gleifion yn mynychu apwyntiadau ac yn cael eu hatgyfeirio, nid yw meysydd eraill yn cynyddu mor gyflym. Mae atgyfeiriadau diogelu ar gyfer plant wedi lleihau'n sylweddol ac mae'r bwrdd iechyd yn ystyried y ffactorau niferus sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yn y Gogledd mae clinigwyr yn monitro rhestrau aros yn rhagweithiol i nodi cleifion sydd angen gwasanaethau brys/hanfodol. Ym maes gofal sylfaenol, mae'r bwrdd iechyd wedi darparu canolfannau deintyddol brys (safleoedd coch) a sefydlwyd ynghyd â rhwydwaith o bymtheg practis optometreg i sicrhau bod cleifion yn parhau i allu cael gafael ar wasanaethau. Maent hefyd wedi sicrhau bod llwybrau amgen wedi’u cyflwyno drwy ddefnyddio e-ymgynghori a dilyniant ar gyfer cleifion allanol sydd, er enghraifft, wedi arwain at leihad o 30% yn y galw am wasanaeth wyneb yn wyneb ar gyfer cleifion orthopedig allanol.

Yn ogystal, mae trefn newydd o gynnal ymgynghoriadau drwy fideo yn golygu bod 85% o apwyntiadau meddygon teulu wedi’u cynnal drwy’r dull hwn, a bu cynnydd yn y defnydd o ‘fy iechyd ar-lein’ ar gyfer fferyllfeydd. Yn yr un modd â byrddau iechyd eraill, mae Betsi Cadwaladr yn monitro'n agos y staff hynny a allai wynebu risg, megis staff hŷn neu feichiog, ac mae'n datblygu canllawiau ar gyfer staff BAME.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi disgrifio model gweithredu clir, sydd a’r  gallu i ‘newid gêr’ i fyny ac i lawr er mwyn ymateb i newidiadau posibl yn y galw. Maent hefyd wedi gweld llawer mwy o ddefnydd o ymgyngoriadau o bell a 'brysbennu'n gyntaf’ mewn ymarfer cyffredinol ac mae hon yn duedd yr ydym yn falch o'i gweld ledled Cymru.

Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu adnoddau ychwanegol drwy Ysbyty Calon y Ddraig. Bydd yn helpu’r rhanbarth i ddarparu cyfleuster cam-i-lawr ar gyfer cleifion COVID-19 a bydd yn defnyddio Ysbyty Annibynnol Spire i ddarparu llawdriniaethau canser, llawdriniaethau heblaw am ganser, cleifion allanol (gan gynnwys triniaethau), endosgopi a chardioleg.  

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod cyfarpar diogelu personol, cyflenwadau meddygol a phrofion yn parhau i fod yn alluogwyr ac yn ddibyniaethau cryf ond mae eu llwyddiant o ran recriwtio staff dros dro wedi bod yn gadarnhaol ac maent yn teimlo eu bod mewn sefyllfa dda wrth symud i’r cam nesaf.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae Cwm Taf Morgannwg hefyd wedi nodi cynllun clir ar gyfer defnyddio ysbytai maes o fewn yr ardal, ynghyd ag ymgyngoriadau clinigol a fydd yn cael eu cyflwyno’n gyflym a’u hategu gan lwybrau clinigol. Mae eu cynlluniau yn sicrhau bod eu cyflenwad o feddyginiaethau brys wedi gwella ar draws y bwrdd cyfan. Maent wedi cyflwyno gwasanaeth cyflenwi meddyginiaethau hanfodol o ofal acíwt i'r cartref er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu cael eu meddyginiaethau.

Mae'n galonogol bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, y trydydd sector a'r boblogaeth i ddeall sut i hybu llesiant, rhagnodi cymdeithasol a chadernid cymunedol yn ddiogel, er enghraifft drwy ddefnyddio technoleg a hyrwyddo hunanreoli. Mae'r rhain, a ffyrdd newydd eraill o weithio, wedi'u gwreiddio hyd y bo modd. Mae gan y bwrdd iechyd gynlluniau clir i wahanu cleifion COVID oddi wrth gleifiion eraill er mwyn iddynt allu parhau i ddod â chleifion i mewn ar gyfer y triniaethau y mae arnynt eu hangen.

Yn yr un modd â sefydliadau eraill y GIG, mae gan Gwm Taf Morgannwg gynlluniau cadarn ar gyfer cefnogi staff a gofalu am eu llesiant, gan gynnwys cyfathrebu ac ymgysylltu, gweithio o gartref, a chydnabod bod gorffwys ac ymadfer yn hollbwysig i staff sydd wedi bod ar reng flaen y pandemig hwn ers misoedd lawer.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi darparu cynllun wrth gefn manwl ar gyfer gwasanaethau canser, gan gynnwys cemotherapi sydd ar gael ar dri safle i sicrhau mynediad. Mae eu cynlluniau'n dangos cryn bwyslais ar ofal sylfaenol, gan ddefnyddio technoleg i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys datblygiadau cadarnhaol o ran ymgyngoriadau rhithwir neu dros y ffôn. Mae gwasanaethau ysbytai, gan gynnwys llawfeddygaeth gyffredinol, y colon a’r rhefr, y fron, wroleg, gynaecoleg ac offthalmoleg wedi cael eu hadleoli i ysbyty preifat lleol, gan ddarparu gwasanaethau cleifion allanol a thriniaethau ar gyfer eu cleifion gofal heb ei drefnu a chleifion brys.

Yn ffodus, nid yw Hywel Dda wedi gweld y galw a ragwelwyd ac mae wedi penderfynu y bydd ysbytai maes yn cael eu cadw wrth gefn ar gyfer unrhyw ail ymchwydd posibl. Rhagwelir y bydd y rhain yn cael eu defnyddio fel cyfleusterau cam-i-lawr.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae Powys wedi sefydlu mannau coch/gwyrdd ar gyfer cleifion COVID a chleifion nad yw COVID arnynt ac wedi dyfeisio llwybrau clir i gefnogi cleifion. Bydd poblogaeth Powys yn gallu manteisio ar gapasiti ysbytai annibynnol drwy wasanaethau a gomisiynir, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd - yng Nghymru a thros y ffin. Mae'r bwrdd iechyd yn datblygu gwaith modelu gyda'r GIG a’r awdurdodau lleol, sy'n cynnwys datblygu protocolau profi gyda chartrefi gofal.

Mae'r cynllun yn disgrifio cyfathrebu da â'r staff, gan ddefnyddio cylchlythyrau rheolaidd, a chodi ymwybyddiaeth o anghenion iechyd a llesiant. Yn bwysig, o ystyried natur gwasanaethau Powys, maent wedi sicrhau y caiff capasiti ei roi ar waith i gefnogi'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty ar gyfer cymorth cam-i-fyny a cham-i-lawr gyda chartrefi gofal.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae'r bwrdd iechyd wedi pennu ffiniau coch ar gyfer cleifion COVID a rhai gwyrdd ar gyfer cleifion nad oes COVID arnynt, ac mae rhai gwasanaethau trydyddol ac arbenigol wedi'u hailgychwyn mewn partneriaeth ranbarthol â bwrdd Caerdydd a'r Fro. Mae rhaglen hyfforddi lawn ar y gweill i uwchsgilio staff i weithio ym maes gofal dwys, ac mae staff wedi cael eu hailhyfforddi fel staff cymorth i gefnogi nyrsys mewn unedau triniaeth ddwys a nyrsys triniaeth ddwys y galon.   

Mae'r cynllun yn adlewyrchu sut y mae gweithio o bell yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf drwy ddarparu dyfeisiau symudol a rhoi pwyslais ar warchod, hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol. Mae'r cynllun yn adrodd bod trawsnewidiad digidol mawr wedi cael ei roi ar waith a bod llawer o galedwedd yn cael ei ddarparu i alluogi gweithio hyblyg ac ystwyth, gan gynnwys i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

I gynorthwyo yn ystod argyfwng COVID-19, symudodd parafeddygon o gerbydau ymateb cyflym i ambiwlansys brys. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi gweld amseroedd ymateb gwell ac mae oedi wrth drosglwyddo cleifion yn yr ysbyty wedi lleihau'n sylweddol, o ganlyniad i lai o alw am wasanaethau ar gyfer cyflyrau arferol.

Mae'r cynllun yn amlygu’r angen i ymgysylltu'n barhaus â’r byrddau iechyd i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn gallu cefnogi'r defnydd o ysbytai maes a chyfleusterau gofal iechyd eraill yn well. Mae cynllun recriwtio a hyfforddi yn flaenoriaeth i'r Ymddiriedolaeth, er mwyn darparu gweithlu ychwanegol law yn llaw â'r ymateb i COVID-19. Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth ambiwlans ac wedi darparu cymorth.  Mae newidiadau wedi'u rhoi ar waith, er enghraifft cyfyngu ar nifer y cleifion fesul cerbyd, cyflwyno sgriniau rhwng cab a salŵn y cerbyd a gwahanu cleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt oddi wrth y rhai sydd wedi cael prawf positif am y feirws. Mae Tîm Llesiant yr Ymddiriedolaeth yn rhoi blaenoriaeth i lesiant ei staff, gan ddarparu cymorth drwy ymgyngoriadau dros y ffôn a sesiynau holi ac ateb rhithwir byw.

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n agos gyda'r rhwydweithiau canser i gynyddu diagnosteg a thriniaeth frys ar gyfer canser, radiotherapi ar gyfer cleifion categori 1 ac achosion brys. Mae mwy o ddefnydd o dechnoleg ar gyfer staff a chleifion, gyda chynnydd o 30% mewn gweithio o gartref. Disgwylir cynnydd tebyg o ran ymgyngoriadau fideo gyda chleifion. 

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cynhyrchu plasma adfer ac mae’n cymryd rhan yn y cynllun rhyngwladol i ddanfon celloedd wedi’u rhewgadw, sy’n fenter newydd. Mae'r cynllun yn dangos bod trefn gadarn ar waith i sicrhau ffiniau rhwng gwahanol fannau wrth reoli cleifion COVID-19.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cymryd rhan mewn treialon cenedlaethol, gan werthuso’r effaith ar staff a chleifion. Recriwtiwyd cleifion ar gyfer y treial RECOVERY i brofi triniaethau posibl ar gyfer COVID-19 ac ar gyfer TERAVOLT, sef astudiaeth i ddilyn trywydd cleifion COVID-19.

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC)

Mae’r Pwyllgor wedi gweithio'n agos gyda darparwyr byrddau iechyd a thimau clinigol i ddod i gytundeb ar y ffordd ymlaen ar gyfer llawdriniaeth thorasig. Mae'r cynllun yn amlinellu'r angen i flaenoriaethu gwasanaethau er mwyn lleihau niwed i'r eithaf drwy ddatrysiadau amgen e.e. defnyddio fideo ac ymgyngoriadau dros y ffôn ar gyfer cleifion allanol ac apwyntiadau dilynol. 

Mae’r Pwyllgor yn cynnal trafodaethau gyda phob darparwr yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau i roi gweithgarwch arferol ar waith yn raddol ar gyfer gwasanaethau arbenigol, ac mae staff y Pwyllgor wedi cael eu hadleoli i helpu'r GIG a swyddogaeth ganolog Llywodraeth Cymru.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae AaGIC wedi canolbwyntio ar yr angen i ailgychwyn addysg a hyfforddiant yn ogystal â'r angen i ailddechrau trefniadau cylchdroi a lleoliadau i fyfyrwyr. Mae'r cynllun yn cydnabod yr angen i adolygu’r strategaeth a ddatblygwyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yng ngoleuni COVID-19.  

Mae staff AaGIC i gyd wedi bod yn gweithio o bell ers canol mis Mawrth, gyda chymorth defnydd helaethach o ystafelloedd dosbarth ar-lein a chreu porth arweinyddiaeth sy’n cynnwys cyfoeth o adnoddau llesiant. Mae'r cynllun yn cyfeirio at broses sicrwydd ansawdd ar gyfer e-arwain mewn ysbytai maes, er mwyn sicrhau cysondeb ar gyfer staff. Deilliodd hyn o drafodaeth rhwng y pedair gwlad.

Mae rheolwyr a staff ar draws y GIG yn realistig yn eu barn ynghylch y posibilrwydd cyfyngedig o ailgychwyn gwaith arferol ar gyfer chwarter 1, a phwysigrwydd parhau i ganolbwyntio ar gyfarpar diogelu personol a phrofi.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda phob un o'r sefydliadau dros y pythefnos nesaf, i fynd ar drywydd unrhyw faterion a dechrau cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y chwarter nesaf. I gefnogi hyn, bydd Fframwaith Gweithredu Newydd 2 yn cael ei ddatblygu a'i gyhoeddi. Bydd y cynlluniau chwarter 2 yn ategu cynlluniau blaenorol ac yn adeiladu ar y bylchau a'r materion newydd a ddaw i'r amlwg. Cynllunio gweithredu fydd y sylfaen ar gyfer y Fframwaith nesaf a bydd disgwyl i gynlluniau chwarter 2 ganolbwyntio ar yr elfennau canlynol:

  • Mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch gofal iechyd rhanbarthol
  • Symud oddi wrth drafodaethau at gyflawni gyda phartneriaid gofal cymdeithasol i gryfhau’r integreiddio
  • Cyfathrebu â staff i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth ddiweddaraf ganddynt am y disgwyliadau yn y dyfodol
  • Cyfathrebu a’r cyhoedd i wneud yn siŵr bod y negeseuon yn gyson, gan gynnal diogelwch staff a chleifion
  • Camau cynnar y cynllunio ar gyfer y gaeaf, a fydd yn cael eu datblygu ymhellach yn chwarter 3

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu pan fydd y Fframwaith Gweithredu newydd ar gyfer chwarter 2 ar gael.