Neidio i'r prif gynnwy

Bywyd ACTif

 

Cynlluniwyd y cwrs rhad ac am ddim hwn i’ch helpu chi i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Gall teimlo’n ofidus neu’n bryderus gael effaith fawr ar eich iechyd, a gall bywyd fod yn arbennig o anodd i rai pobl. 
 
Gall y cwrs eich helpu chi i gymryd mwy o reolaeth dros eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a all fod yn peri trallod.
 
Datblygwyd y cwrs ar eich cyfer gan Dr Neil Frude a bydd yn eich helpu chi i ganfod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi ac yn rhoi’r sgiliau i chi allu byw eich bywyd gyda mwy o hyder a mwy o ymdeimlad o bwrpas. 
 
Dechreuwch y cwrs drwy glicio ar fideo ACT 1 isod. Mae pedwar fideo a phob un yn para tua 40 munud. Gallwch gael saib ar unrhyw adeg a dod yn ôl atynt os bydd angen i chi gael hoe. Rydym yn argymell cymryd diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn ymarfer y dysgu. Ar gyfer pob un o'r fideos mae yna ganllaw y gallwch chi ei lawrlwytho, ei argraffu neu gymryd nodiadau arno, a hefyd mae rhai ymarferion sain y gallwch chi wrando arnyn nhw.