Skip to main content

Y Pwyllgor i ymweld ȃ chanolfan ddadleuol i geiswyr lloches

25 February 2016

Ddydd Llun, 29 Chwefror, mi fydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld ȃ Lynx House, canolfan sy'n cynnig lloches yng Nghaerdydd.

Mi ddaeth y ganolfan i sylw'r wasg yn ddiweddar yn sgil polisi i roi bandiau coch ar arddyrnau'r rhai fu'n aros yno er mwyn iddyn nhw fedru cael bwyd. Mae ‘na honiadau hefyd o or-boblogi a safonau byw gwael. Mi fydd yr aelodau hefyd yn cwrdd ȃ Clearspring Ready Homes, rheolwyr y ganolfan.

Sylw'r Cadeirydd

Dyweddd Cadeirydd y Pwyllgor David TC Davies:

"Fel Pwyllgor, ry' ni'n teimlo ei bod yn bwysig dod at wraidd y straeon Cymreig sy'n ymddangos ar y newyddion. Mae Lynx House wedi bod yn bwnc llosg yn y wasg Brydeinig ac ry' ni'n awyddus i ymweld ȃ'r lle ein hunain. 

Ry'n ni'n cynnig lloches i dros 1,000 o ffoaduriaid ar hyn o bryd yng Nghymru, ac mae'n bwysig ein bod yn craffu ar y mater am nad yw'r argyfwng yn debygol o ddod i ben yn fuan."

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto